Girlguiding Cymru

Croeso

Kites

Croeso i wefan Girlguiding Cymru! Girlguiding yw’r sefydliad gwirfoddol mwyaf ar gyfer merched ifanc yn y DU. Mae ganddo 600,000 o aelodau, ac mae 23,000 ohonyn nhw’n byw yng Nghymru. Rydyn ni’n cynnig cyfle i ferched gael hwyl, gwneud ffrindiau newydd a datblygu sgiliau. Gall merched hefyd fynychu digwyddiadau arbennig, a chael eu dewis ar gyfer teithio rhyngwladol.

Os ydych chi’n dymuno treulio amser ar wyliau yng Nghymru, mae gennym ni ddewis da o wersylloedd a chanolfannau preswyl. Os ydych chi’n cynllunio gwyliau ar yr arfordir, efallai bydd Ynysgain, ein gwersyll a chanolfan gwyliau pac yng Ngogledd Cymru, gyda golygfeydd bendigedig, yn apelio atoch chi. Neu efallai eich bod am ymweld â Broneirion, canolfan weithgareddau a chartref Guiding yng Nghymru.

Pe hoffech ymuno â ni, gwelwch ein hadran Merched sy’n rhoi mwy o wybodaeth. Mae Girlguiding Cymru bob amser yn falch o groesawu arweinwyr a chynorthwywyr newydd i’n sefydliad; byddai hyn yn rhoi cyfle i fwy fyth o ferched ymuno â ni. Dylai ein hadran Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych ateb y rhan fwyaf o’ch cwestiynau, ond cysylltwch â ni os oes gennych chi fwy o gwestiynau.

Gwelwch ein tudalen Beth sy’n Newydd?, sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd. Yma, gallwch gael y newyddion diweddaraf a chael gwybod pa ddigwyddiadau sydd ar y gweill. Anfonwch un o’n e-gardiau at eich ffrindiau a rhannu’ch brwdfrydedd dros Guiding!


Gwefan wedi’i dylunio ac yn cael ei chynnal gan Mid Wales Design