Mae Pont Hafren yn arwain o Loegr i galon teyrnas hynafol Gwent. Daw’r enw Gwent o Venta Silurum, prifddinas llwyth Celtaidd y Silwriaid, ac mae’n rhanbarth sy’n cynnwys rhai o’r golygfeydd harddaf a mwyaf amrywiol yng Nghymru, yn ogystal â rhywfaint o hanes mwyaf lliwgar y wlad.
I’r gogledd orllewin mae’r “blaenau”, y mynyddoedd roedd gwaith glo a haearn arfer â’u creithio yn ystod y chwyldro diwydiannol, sydd bellach wedi dychwelyd i fod yn llethrau coediog ac yn olygfeydd hardd. I’r de mae “gwastadoedd” llydan corsiog aber Hafren ac i’r dwyrain mae Dyffryn Gwy prydferth ac olion Abaty Sistersaidd Tyndyrn.
Yn rhan o Gymru, ond yn agored i oresgynwyr o Loegr, mae'r rhanbarth yn frith gan gestyll sy'n dyst i frwydrau'r gorffennol, o Gas-gwent a adeiladwyd gan y Normaniaid i ysblander y 15fed ganrif yn Rhaglan, un o gadarnleoedd olaf y Brenhinwyr yn ystod y Rhyfel Cartref.
Bellach nid yw Gwent yn sir yn yr ystyr gweinyddol; mae wedi’i rhannu yn awdurdodau unedol Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Tor-faen, Casnewydd a Chaerffili. Fodd bynnag, Gwent yw’r sir Guiding o hyd, ac mae ei hwyth Rhanbarth yn adlewyrchu’r awdurdodau unedol i ryw raddau, yn amrywio mewn maint o Gasnewydd i lawr i Flaenau Gwent. Mae Guiding yng Ngwent yn ffynnu! Dangosodd ein cyfrifiad diwethaf fod mwy na 3,000 o ferched yng Ngwent, rhwng 5 ac 16 oed, yn aelodau o'r Mudiad, o'r Rainbow ieuengaf i'r Ranger hynaf.
Comisiynydd y Sir
Mrs. Jen Lloyd
Cliciwch yma i gysylltu â ni.