Duke Of Edinburgh Award

Gwobr Dug Caeredin

Duke Of Edinburgh Award Duke Of Edinburgh Award

Rhaglen datblygiad personol gwirfoddol, llawn her, heb fod yn gystadleuol yw Gwobr Dug Caeredin sydd ar gael i bob unigolyn ifanc rhwng 14 a 25 oed.

Gall Guides hŷn ac aelodau'r Adran Hŷn ennill y Wobr, gan fod llwyddiant yn cael ei bennu yn sgil cymryd rhan dros gyfnod o amser, ac yn sgil gwella ar fan cychwyn yr unigolyn.

Gweithio gydag uned Rainbows, Brownies neu Guides leol yw'r ffordd arferol y bydd y rheiny sy'n cymryd rhan yn gwasanaethu Girlguiding UK.
Ymhlith cyfleoedd eraill i'r rheiny nad ydyn nhw'n aelodau mae:

a) Gwasanaeth sy'n gysylltiedig â menter benodol Girlguiding UK sydd â chyfyngiad ar yr amser ac sydd o fudd i'r gymuned ehangach
b) Cymryd rhan mewn cynllunio digwyddiad Girlguiding UK.

Hefyd gall aelodau Girlguiding UK ystyried:
a) Gweithio tuag at gymhwyster Girlguiding UK, a'i ddefnyddio er budd uned leol.
b) Gwasanaethu dramor fel aelod o Girlguiding UK ar brosiect GOLD (Guiding Overseas Linked with Development).

Hefyd efallai y bydd gweithgareddau tuag at y Wobr yn cyfrif tuag at wobrau Guide y Frenhines a Look Wider.

I gael mwy o wybodaeth am y Wobr, cliciwch yma i gysylltu â ni.

Hefyd gallwch fynd i wefan Duke Of Edinburgh Award.

Gwefan wedi’i dylunio ac yn cael ei chynnal gan Mid Wales Design