Croeso
Croeso i Gymru a Girlguiding Cymru! Fy enw i ydi Felicity Ladbrooke, i’r rheiny ohonoch chi nad ydw i wedi’ch cyfarfod eto. Wrth i mi ddechrau ar y “swydd” newydd yma, fel eich “Pennaeth” newydd, rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â chynifer ohonoch chi â phosibl yn ystod y 5 mlynedd nesaf. Diolch i chi i gyd am y dymuniadau da a dderbyniais pan ddechreuais fy nghyfnod yn y swydd hon yn Girlguiding Cymru.
Wel, mae’r Canmlwyddiant drosodd erbyn hyn ac, fel rwyf wedi sôn wrth nifer ohonoch chi, mae gen i fathodyn sy’n rhoi gwybod i mi fy mod i wedi “Goroesi’r Canmlwyddiant”. Gobeithio i chithau ei fwynhau hefyd.
Mae Geidio wedi bod yn rhan o’m bywyd ers ……wel, yn hirach nag rwy’n hoffi cofio ond, fel y rhan fwyaf ohonoch chi, rwy’n dal i fwynhau fy nghyfarfodydd Guides ar nos Iau! Fy nghenhadaeth yw parhau i ddatblygu Girlguiding Cymru a sicrhau ein bod ni’n gallu darparu ystod gyffrous ac amrywiol o gyfleoedd i bob un o’n haelodau.
Sefydliad yr 21ain Ganrif ydym ni, â gwerthoedd traddodiadol sydd, er hynny, yn fodern ac yn berthnasol i ferched a menywod ifanc heddiw, gan ddarparu lle diogel “i ferched yn unig”, lle gallan nhw herio’u hunain. Mae gennym ni aelodau ym mhob cwr o’r byd, ac mae rhai o’n gweithgareddau’n cynnwys…..gwersylla, abseilio, mynydda, saethyddiaeth, coginio a dringo clogfeini heb raff, heb sôn am y pethau rydym ni’n eu gwneud dros y gymuned ehangach hefyd. Os yw’r merched yn gofyn, rydym ni’n gwneud ein gorau glas i’w plesio. Mae gennym ni rywbeth i’w gynnig i bawb. Er enghraifft, ychydig cyn y Nadolig, penderfynodd fy Guides i y bydden nhw’n piclo betys!
Rwy’n ddiolchgar i chi a phob un o’n haelodau iau sydd wedi rhoi o’u hamser i wneud y llynedd yn llwyddiant ysgubol – mae’n teimlo fel oes ers hynny’n barod! Wrth i ni lansio ein hunain i mewn i’r 100 mlynedd nesaf, gall y cyfarfodydd wythnosol a’r strafagansas awyr agored barhau. Da iawn chi, pob un ohonoch chi.
Felly “Helo” i’m Tîm Cymru, a “diolch” cyn iddyn nhw ddechrau i Viv Craig a Lesley Mathews, fy Nirprwy Brif Gomisiynwyr, sydd wedi cytuno i’m cefnogi yn ystod fy nghyfnod yn y swydd!
This entry was posted on Saturday, September 26th, 2009 at 12:24 pm and is filed under Welsh home intro.
