Adult Leaders

Oedolion Arwain

adult leader smalladult leadersGall merched dros 18 oed ddod yn Oedolion Arwain yng ngwisg y mudiad, gan weithio gyda merched rhwng 5 a 25 oed yn eu cymuned leol. Nid oes angen unrhyw sgiliau arbennig, dim ond bod yn frwdfrydig, bod yn barod i ddysgu a mwynhau gweithio gyda phlant a merched ifanc.

Mae hyfforddiant a chefnogaeth ar gael ar gyfer y rôl wirfoddol yma. Cewch gyfle i ddatblygu’ch sgiliau gweithio mewn tîm, delio â phobl, cyfathrebu, trefnu a rheoli, a mynd i’r afael ag anturiaethau bywyd!

Mae yna hefyd lawer o gyfleoedd eraill i wirfoddoli yn y Guides. Cliciwch yma i gael manylion.
Felly, os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn Arweinydd yng ngwisg y mudiad, yn Gynorthwy-ydd Uned, neu yn rhywun sy’n helpu mewn rôl arall i oedolion, cysylltwch â’ch swyddfa Guides Sirol leol neu swyddfa Girlguiding Cymru neu cliciwch yma neu ewch i www.girlguiding.org.uk i gael mwy o wybodaeth.

Ymunwch â ni, a rhyddhau’ch potensial cudd!

English

Website designed & hosted by Mid Wales Design