Duke of Edinburgh Award

Gwobr Dug Caeredin

dofelogoduke of edinburghduke of edinburghRhaglen datblygiad personol gwirfoddol, llawn her, heb fod yn gystadleuol yw Gwobr Dug Caeredin sydd ar gael i bob unigolyn ifanc rhwng 14 a 25 oed.

Gall Guides hŷn ac aelodau’r Adran Hŷn ennill y Wobr, gan fod llwyddiant yn cael ei bennu yn sgil cymryd rhan dros gyfnod o amser, ac yn sgil gwella ar fan cychwyn yr unigolyn.

Gweithio gydag uned Rainbows, Brownies neu Guides leol yw’r ffordd arferol y bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn gwasanaethu Girlguiding UK.
Ymhlith cyfleoedd eraill i’r rheiny nad ydyn nhw’n aelodau mae:

a) Gwasanaeth sy’n gysylltiedig â menter benodol Girlguiding UK sydd â chyfyngiad ar yr amser ac sydd o fudd i’r gymuned ehangach
b) Cymryd rhan mewn cynllunio digwyddiad Girlguiding UK.

Hefyd gall aelodau Girlguiding UK ystyried:
a) Gweithio tuag at gymhwyster Girlguiding UK, a’i ddefnyddio er budd uned leol.
b) Gwasanaethu dramor fel aelod o Girlguiding UK ar brosiect GOLD (Guiding Overseas Linked with Development).

Hefyd efallai y bydd gweithgareddau tuag at y Wobr yn cyfrif tuag at wobrau Guide y Frenhines a Look Wider.

I gael mwy o wybodaeth am y Wobr, cliciwch yma i gysylltu â ni.

Hefyd gallwch fynd i wefan Duke Of Edinburgh Award.

English

Website designed & hosted by Mid Wales Design