Ysgubor Hir full view main pic.JPG

Ynysgain

Canolfan Breswyl Girlguiding Cymru
Cricieth, Gwynedd, Gogledd Cymru

Mae Ynysgain oddeutu milltir o Gricieth, hanner ffordd rhwng Cricieth a Llanystumdwy ar yr A497.
Mae Ynysgain ar ymyl Parc Cenedlaethol Eryri, gyda thir fferm o’i amgylch. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar y rhan fwyaf o’r tir fferm yma. Mae ei leoliad yn ddelfrydol ar gyfer gweithgareddau awyr agored, gan gynnwys chwaraeon dŵr, cerdded a dringo.

Tua phum munud ar droed o Ynysgain mae yna draeth sy’n frith o gregyn a cherrig. Mae llawer o adar y môr yn cartrefu ar y traeth, ac mae morloi yn byw yn y dŵr bas ar yr arfordir.

Mae’r tri eiddo preswyl wedi’u hadeiladu o gerrig o amgylch iard fawr.

Mae pob un o’r pedwar gwersyll yn ei gae ei hun gyda gât ar bob cae, a gwrychoedd, waliau cerrig a choed o’u hamgylch. Gellir llogi offer gwersylla ym mhob un o’r safleoedd.

Tŷ Ni

Tŷ fferm ag ynddo ddigon o offer ar gyfer 16 o bobl (4 Oedolyn, 12 Merch). Gosodwyd ffenestri a drysau gwydr dwbl ar yr eiddo yma yn ddiweddar.  Gosodwyd gwres canolog  ynddo, . Mae yn cynnig llety cyfforddus drwy1r flwyddyn.

Ysgubor Hir

Ysgubor carreg wedi’i throsi yw’r eiddo yma (yn addas ar gyfer cadair olwyn). Mae lle ynddo i 13 o bobl (3 Oedolyn, 10 Merch).

Y Bwthyn

Mae’r bwthyn cerrig bychan yma’n cynnig lle i 11 gysgu ynddo (2 Oedolyn, 9 Merch).
Gwersylloedd gyda 2 wely sengl i fyny grisiau a lle ar y Llawr. I lawn grisiau mae 2 welu sengl arall. Mae cegin gyda offer priodol ac hefyd i lawr grisiau mae ystafell ymolchi gyda cawod.

Pen Lôn – Safle 1

Gellir cynnig lle i 20 – 30 o wersyllwyr ar y safle yma. Mae dŵr ar gael o dap ym mhen y cae. Mae yna 3 toiled dwrlif a 3 ciwbicl ymolchi. Mae gan Safle 1 gysgodfan gadarn o gerrig y drws nesaf i’r Bwthyn, yn yr iard – mae yna bwyntiau pŵer trydan ac oergell-rhewgell yno.

Cae’r Bont – Safle 2

Gellir cynnig lle i 35 – 40 o wersyllwyr ar y safle yma. Mae dŵr ar gael o’r iard (y tu allan i’r Bwthyn). Mae gan Safle 2 gysgodfan gadarn o gerrig yn yr iard, lle mae yna oergell a rhewgell a 4 pwynt trydan. Mae yna 5 toiled dwrlif a 3 cawod ar y safle, ger y gysgodfan gadarn.

Ger y Môr – Safle 3

Gellir cynnig lle ar gyfer hyd at 50 o wersyllwyr yma. Mae dŵr ar gael y tu allan i floc y cawodydd yn yr iard. Mae yna 3 thoiled dwrlif yng ngwaelod gardd Tŷ Ni sydd y drws nesaf i’r safle. Mae cysgodfan gadarn o gerrig yn yr iand gyda oergell a pwynt trydan.

Cae Bach – Safle 4

Cae ger yr iard yw’r Cae Bach, ac mae’n ddefnyddiol fel safle gorlif o’r gwersylloedd neu’r eiddo eraill, fel gwersyll bychan neu ar gyfer gwersylla ysgafn. Mae offer gwersylla a choed tan ar gael wrth ofyn.
I gael mwy o wybodaeth ac i weld a oes modd i chi archebu lle cliciwch yma.

Guiding Booking & Enquiry Form

Non-guiding Booking  & Enquiry Form

English

Website designed & hosted by Mid Wales Design