
Tŷ prydferth o oes Fictoria yw Broneirion, yn swatio yn ei diroedd ei hun ar lechwedd ar draws afon Hafren o bentref Llandinam. Ym 1992 daeth yn eiddo i Girlguiding Cymru gan ddathlu 50 mlynedd ym 1997. Dros y blynyddoedd, mae llawer o Guides wedi dod trwy ei ddrysau i gael hyfforddiant ac i fwynhau gwyliau. Mae cefn gwlad godidog Cymru o’i amgylch, sy’n golygu ei fod yn lleoliad delfrydol y gellir ymweld â’r mynyddoedd a’r arfordir ohono.
Mae Broneirion yn rhedeg rhaglen ddiddorol ac eang ei hystod o Hyfforddiant yn ystod y flwyddyn. Mae’n cynnig llety cyfforddus ar gyfer hyd at 45 o bobl mewn detholiad o ystafelloedd sengl, ystafelloedd â phâr o welyau ac ystafelloedd i’w rhannu. Mae manylion llawn yr hyfforddiant sydd ar gael yn Nyddiadur Hyfforddiant Broneirion ar gael oddi wrth Reolwr y Ganolfan Hyfforddi. Gallwch gael mwy o fanylion o wefan Broneirion.
Byddwn yn cynnig gwyliau i’r teulu, digwyddiadau cerdded a gwyliau Urdd Trefoil. Gellir trefnu gwyliau uned ac egwyliau canol wythnos yn y tŷ lle bydd arlwywyr yn gofalu am y lluniaeth.
Mae ystafelloedd, offer a chyfleusterau cynadledda llawn ar gael i’r Guides a sefydliadau allanol.
Mae gennym ddwy fflat hunangynhwysol gyfforddus â lle ym mhob un ar gyfer hyd at bedwar o bobl.
Gwersyll gwastad yw Cae Gwenllian â chyfleusterau ar gyfer hyd at 24 o wersyllwyr neu le i hyd at 60 os nad ydyn nhw am gael y cyfleusterau. Mae gosodiad y gwersyll yn brydferth, ac mae ynddo doiledau dwrlif a dŵr tap ar y safle.
Mewn car: Mae Llandinam ar yr A470 rhwng Llanidloes a’r Drenewydd. Trowch oddi ar yr A470 ger Cerflun Davies o Landinam. Ewch ymlaen dros y bont ac ar hyd y ffordd am oddeutu 200 llath. (Bysus – a fyddech cystal â chysylltu â’r Tŷ i gael cyfarwyddiadau).
Ar y Trên: Caersws yw’r orsaf Reilffordd agosaf (3 milltir) ar lein Aberystwyth. Mae yna orsafoedd hefyd yn y Drenewydd (9 milltir) ac Amwythig (42 milltir). Bydd rhywun yn dod i gwrdd â’r trenau yng Nghaersws lle bynnag bo hynny’n bosibl, os gallwch ddweud yn union pryd y byddwch yn cyrraedd.
Ar y Bws: Mae yna wasanaeth bws dyddiol o Lundain i Aberystwyth sy’n aros yn Llandinam.
Rheolwr y Ganolfan Hyfforddi
Broneirion, Canolfan Hyfforddi Guides Cymru, Llandinam, Powys, SY17 5DE.
Ffôn: 01686 688204
Ffacs: 01686 688244
E-bost: admin@broneirion.com