Sir Benfro

helicopter ridePembrokeshireMae Sir Benfro yn “sir o’r radd flaenaf” ym marn llawer o bobl, ac mae’n hawdd gweld pam ar ôl un ymweliad. Mae wedi’i lleoli ym mhen pellaf De Orllewin Cymru, ac mae ganddi olygfeydd ysblennydd, yn amrywio o fynyddoedd hudol y Preselau i’r arfordir garw a gwyllt, traethau diogel bendigedig, a’r trefi bach sy’n gyfareddol. Cedwir ei harddwch naturiol yn bennaf gan ei bod yn Barc Cenedlaethol, ac mae’n hafan ar gyfer y rheiny sy’n mwynhau’r bywyd awyr agored, gyda milltiroedd o lwybrau arfordirol ar gyfer cerdded a dringo creigiau. Mae chwaraeon a gweithgareddau dŵr yn chwarae rhan fawr ym mywyd y Sir, ac mae gweithgareddau hamdden mwy modern fel syrffio barcud a dringo’r arfordir ar gael i bawb. Mae trefi Dinbych-y-pysgod, Hwlffordd, Abergwaun, Trefdraeth ac Arberth yn cynnig ffyrdd mwy esmwyth o dreulio’ch amser. Mae’r cestyll canoloesol hyfryd ym Mhenfro, Caeriw a Maenorbŷr yn eich cludo i oes arall. Ond nid diwylliant yn unig sydd yn Sir Benfro. Pwy all wrthod atyniad parc thema Oakwood gyda’r ‘ffigar-êt’ gorau ond dau yn y byd!

Mae Guiding yn Sir Benfro mor amrywiol a bywiog â’r sir ei hun, gyda chyfleoedd i’r merched gymryd rhan trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Mae’r niferoedd wedi aros yn gyson o gwmpas y 1,000 dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r Mudiad yn sicrhau bod pobl ledled y sir yn gwybod am ei fodolaeth. Mae yna dair adran yn y Sir Guiding, ond rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn cyfarfod â’n gilydd yn rheolaidd i ddathlu ein hamrywiaeth. Mae Girlguiding Sir Benfro, dan ein Comisiynydd Sir deinamig, Ruth Best, yn ffynnu, ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at y dathliadau canmlwyddiant. Croeso i Sir Benfro!

I gael mwy o wybodaeth

pembrokeshire_flag

Comisiynydd y Sir

Mrs. Ruth Best

Cliciwch yma i gysylltu â ni.

English

Website designed & hosted by Mid Wales Design