Morgannwg Ganol

Central GlamAr ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, un sir oedd Morgannwg, o safbwynt Dinesig ac o safbwynt Guides, ond dan ddylanwad Miss Olive Nicholl a Miss Heather Kay penderfynwyd rhannu’r Sir yn dair, ac felly y ffurfiwyd Morgannwg Ganol.
O Gynffig Burrows yn y dwyrain, ar draws Afon Ogwr ac ymlaen i Sain Tathan, i’r gogledd i Bontypridd a Merthyr Tudful, i’r gorllewin ar draws flaenau cymoedd Cynon a Rhondda cyn mynd yn ôl i lawr trwy Faesteg ac yn ôl i’r arfordir. Dyma Forgannwg Ganol, yn eistedd rhwng Gorllewin Morgannwg a Chaerdydd a Dwyrain Morgannwg. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach gwnaeth yr Awdurdodau Bwrdeistrefol rywbeth tebyg a galw’r ardal yn Forgannwg Ganol.
Miss Olive Nicholl oedd Comisiynydd cyntaf Sir Morgannwg Ganol, a’i syniad hi oedd cael Tŷ Guides i’r Sir. Ar ôl dipyn o chwilio, llwyddwyd i ddod o hyd i’r safle ar gyfer Gorwelion, ac adeiladwyd y tŷ. Byngalo pren â theras yn tremio dros y twyni ym Mhorthcawl oedd hwn.
Yna daeth trychineb i’n rhan; torrodd fandaliaid i mewn a llosgi’r strwythur gwreiddiol i’r llawr. Dim ond dwy eitem a oedd ar ôl yr oedd hi’n bosibl eu defnyddio – cwpan Ewenny a’r sgrîn dân Gwylan, ac mae’r rhain gennym ni hyd heddiw. Yn eofn, tyrrodd y Sir yn gefn i’r mudiad a chafodd y tŷ ei ailadeiladu a’i ailagor ymhen blwyddyn. Ers hynny rydyn ni wedi gallu prynu’r tir a bellach rydyn ni’n berchen ar dŷ a gwersyll hyfryd yng Ngorwelion.
Rydyn ni hefyd yn gallu defnyddio Drws-y-Coed ar Stad Merthyr Mawr. Mae hyn eto yn ddiolch i Miss Nicholl gan fod ei theulu’n berchen ar y Stad a’i nith, Mrs Jenny McLaggan yw Llywydd ein Sir ar hyn o bryd.

I gael mwy o wybodaeth

Girlguiding Central Glamorgan

Comisiynydd y Sir

Mrs. F. Ladbrooke

Cliciwch yma i gysylltu â ni.centralglamorgan

English

Website designed & hosted by Mid Wales Design