Twitter

GuidingCymru
22 Aug Two thirds of girls and young women aged 11-21 say there is too much pressure to do well in exams, reveals Girlguid… https://t.co/E7PLlGOhl9
GuidingCymru
22 Aug RT @GuidingCymru: GOOD LUCK to everyone receiving their GCSE results today! 😀 ⭐ Remember, you are capable of AMAZING things! ⭐ We are so p…
GuidingCymru
22 Aug GOOD LUCK to everyone receiving their GCSE results today! 😀 ⭐ Remember, you are capable of AMAZING things! ⭐ We ar…https://t.co/Ca63iD0wass

GIRLGUIDING YDYM NI

Ar gyfer merched o 5 i 105! Mae gennym 4 adran:

a channoedd o wirfoddolwyr a chefnogwyr.

Yr ydym ar agor i ferched a gwragedd ifanc, beth bynnag eu cefndir ac amgylchiadau, ac yn hollol gynhwysfawr o ferched ag anableddau. Rydym yn cynnig gweithgareddau hwylus, cyffrous a’r cyfle i wneud ffrindiau oes. Cewch hyd i ni mewn sawl cymuned, yn cynorthwyo merched gyda chychwyn da mewn bywyd – yn eu hannog i fod yn hapus, hunan-hyderus a chwilfrydig ynglŷn a’r byd o’u cwmpas a’r gwahaniaeth y medrant ei wneud.

Gall ferched weithio i ennill bathodynnau ym mhob pwnc o oroesi, teithiwr byd a byw’n annibynnol i ymchwilydd gwyddonol, sêr wyliwr ac antur.

Mae’n gwersylloedd, gwyliau a gwibdeithiau’n rhoi cyfle i ferched gael blas ar anturiaethau newydd, o feicio cwad, cyfeiriannu ac abseilio i zorbio, canŵio a disgyn ar weiren wïb.

Mae’n rhaglen Addysgwyr Cyfoedion ac adnoddau arbenigol yn cefnogi merched i drafod pynciau megis anhwylderau bwyta, or-yfed a iechyd rhywiol. Mae’n prosiectau’n addysgu merched ynghylch materion sensitif sy’n effeithio ar eu cyfoedion o gylch y byd megis trais yn erbyn merched, plant y stryd ac addysg merched.

Drwy wirfoddoli gyda ni, cewch gyfle i greu cyfleoedd gwych i ddarparu gofod diogel lle gall ferched ddatblygu’u hyder, codi uchelgeisiau a chael hwyl bendigedig. Gallwch wirfoddoli dros Girlguiding mewn nifer o ffyrdd - mae’n hyblyg a gellid ei drefnu o amgylch bywyd prysur. Cewch gyfrannu mewn ffordd fach neu’n fawr - mae bob awr yn cyfri!

BYDDWCH YN RHAN OHONO

Mixed1
Mixed2
Mixed3
Mixed4
Telerau         |         Preifatrwydd         |         Cwcis
© 2019 Girlguiding Cymru. Broneirion, Llandinam, Powys, SY17 5DE | Registered Charity No. 521209