Twitter

GuidingCymru
15 Sep RT @GuidingGwent: Everyone loves a goody bag! Growing Guiding session this morning 👊�commissionersconnectchttps://t.co/G3RbEN8fvKvK
GuidingCymru
15 Sep Have a great day 🤩🙌InspireGirlsrhttps://t.co/FHTOjjPjTqjTq
GuidingCymru
14 Sep RT @SunshineMedi: Girlguiding Cymru Commissioners busy at the annual Commissioners Connect Comisiynwyr Girlguiding Cymru yn brysur yng Ng…

Ynys Môn

Sir sy’n ynys yng Ngogledd Orllewin Cymru yw Môn. Gallwch ei chyrraedd dros ddwy bont ffordd ac un bont reilffordd sy’n cysylltu’r ynys â chyrion tref brifysgol Bangor, Gwynedd, ar dir mawr y DU.

Mae gennym lawer o atyniadau i dwristiaid ac atyniadau hanesyddol diddorol ar Ynys Môn, yn amrywio o gestyll a thraethau prydferth i bentref oes y cerrig a charneddau claddu hynafol. Mae’r prif lwybr fferi o dir mawr y DU i Iwerddon yn rhedeg o Gaergybi i Dun Laoghaire a Dulyn, ac rydym hefyd yn agos i Barc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd.

Mae’r Guides wedi bod ar Ynys Môn er 1914, pan roddwyd cychwyn i unedau yng Nghaergybi a Phorthaethwy. Bellach, mae gennym ni fwy na 500 o ferched yn aelodau o 34 uned o Rainbows, Brownies, Guides a’r Adran Hŷn – wedi’u lledaenu ledled yr ynys.

Mae gennym hefyd lety gwyliau hunanarlwyo dan do yn Nhŷ Guides Lligwy, Penrhoslligwy. Byddwn yn rhoi hwn ar osod fesul dwy adran (ond mae modd eu cyfuno). Mae lle i 29 o ferched gysgu yn yr hundy ac ystafell yr arweinwyr yn yr ysgol, ac mae lle i 13 gysgu mewn tair ystafell wely yn Nhŷ Bodafon. Hen ysgol wedi’i throsi yw Lligwy, ar fin pentref sydd 15 munud ar droed o’r traeth.

I gael mwy o wybodaeth

Girl Guiding Anglesey

Comisiynydd y Sir
Mrs. Rebecca Ode

Cliciwch yma i gysylltu â ni.

anglesey-flag
lligwy
Anglesey
Telerau         |         Preifatrwydd         |         Cwcis
© 2019 Girlguiding Cymru. Broneirion, Llandinam, Powys, SY17 5DE | Registered Charity No. 521209