Twitter

GuidingCymru
16 Jan ⭐️ Volunteering Opportunity ⭐️Aged under 30? Looking for an exciting & new challenge? We're looking for two Assist… https://t.co/zb9ckjYxBN
GuidingCymru
15 Jan We hope all those attending the Girlguiding exclusive screening of Mary Poppins Returns this weekend have a fantast… https://t.co/wFQkEqBLus
GuidingCymru
14 Jan Want to use your voice to represent girls and young women? 🙌😀 Apply to join our delegation on the British Youth Cohttps://t.co/vAuTvf0kiQiQ

Sir Drefaldwyn

Hanes Guiding Sir Drefaldwyn

Dechreuwyd Guiding yn Sir Drefaldwyn ym 1919 gan Miss Monica Woosnam (yn ddiweddarach Mrs. R MacPherson), a’i chwaer Miss Gaynor Woosnam (yn ddiweddarach Mrs J. E. M. Richard). Rhoddwyd Baner y Sir i’r Sir gan Uwchgapten Richard (Y Gwarchodlu Du), er cof am ei ddiweddar wraig. Cyflwynwyd y faner ar ei ran gan ei chwaer hi yn Rali’r Sir ym 1933, a gynhaliwyd yn Neuadd Tre’r-llai.

Yr arwyddluniau ar y Faner yw:- Bathodyn y Guides

Llew Rampant Sir Drefaldwyn

Dau far croes â’r geiriau “Fidelity and Rememberance” arnyn nhw

Yna tri sbrigyn o Rhosmari

A’r Afon Hafren yn rhedeg ar hyd y Faner

Ynglŷn â Sir Drefaldwyn

Mae Sir Drefaldwyn yn ddwfn yng nghalon Canolbarth Cymru.

Mae’n ymestyn o ddyfroedd llanw’r Afon Dyfi yn y gorllewin, hyd at y ffin â Lloegr yn y dwyrain – 790 milltir sgwâr o ucheldiroedd hardd a dyffrynnoedd gwyrdd.

Yn y gogledd, mae’r Afon Efyrnwy’n llifo trwy gefn gwlad hyfryd, o Fynyddoedd trawiadol y Berwyn i Ddyffryn Meifod. Yn y gorllewin mae dwy o afonydd mwyaf godidog Prydain, yr afon Hafren a’r afon Gwy yn tarddu o ucheldiroedd Pumlumon. Mae dyffryn Hafren yn ysgubo’n fawreddog trwy ddwyrain Sir Drefaldwyn ac mae’n darparu’r brif ffordd i ymwelwyr i mewn i’r sir.

Sir wledig yw Sir Drefaldwyn yn bennaf. Ffermio yw asgwrn cefn a chalon y rhan fwyaf o gymunedau’r sir, o ddyffryn ffrwythlon yr Afon Hafren i’r ffermydd mynydd anghysbell. Bellach, mae Sir Drefaldwyn, Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed yn ffurfio awdurdod unedol Powys.

I gael mwy o wybodaeth

Girl Guiding Montgomeryshire

Comisiynydd y Sir
Mrs. Beverley Martin

Cliciwch yma i gysylltu â ni.

montgomeryshire-standard
MONTGOMERYSHIRE
Telerau         |         Preifatrwydd         |         Cwcis
© 2019 Girlguiding Cymru. Broneirion, Llandinam, Powys, SY17 5DE | Registered Charity No. 521209